Stori
Mae Awen wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ein lleoliadau. Dyma ychydig o enghreifftiau o'n cynnydd diweddar.
Rhannu ar
Ers mis Mai rydym wedi bod yn gweithio gydag Access Provocateur a’r Artist Byddar Emily Rose fel rhan o brosiect partneriaeth Breaking the Box a arweinir gan Taking Flight Theatre. Mae Emily wedi bod yn adolygu pob maes o’n gwaith theatr a llesiant creadigol megis marchnata, recriwtio a rhaglennu i weld ble y gallwn wella hygyrchedd.
Gyda chymorth Emily, rydym yn gwneud ein hasedau marchnata yn fwy hygyrch gyda thaflenni BSL a thaflenni disgrifiad sain ar gyfer perfformiadau hygyrch fel ein pantomeim Rapunzel y Nadolig hwn. Rydym hefyd yn cynnwys BSL, capsiynau a disgrifiad sain yn ein pantomeim a pherfformiadau o Theatr Ieuenctid Pen-y-bont.
Rydym yn datblygu gwefan Swyddfa Docynnau Awen fel bod yn haws i bobl ddarganfod mwy am ein perfformiadau hygyrch. Mae ein proses drefnu tocynnau ar gyfer cwsmeriaid mynediad wedi'i symleiddio fel y gallwn sicrhau ein bod yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid yn hyderus. Fel aelodau Hynt gall holl ddeiliaid cardiau Hynt gael tocyn gofalwr am ddim pan fyddant yn archebu ar gyfer unrhyw un o'n sioeau.
Rydym wedi cynyddu ein rhaglennu hygyrch, gyda sgriniadau sinema hamddenol ac wedi'u capsiynu yn dod yn fuan, a gwaith rheolaidd gan gwmnïau celfyddydau perfformio cynhwysol fel Frozen Light, Theatr Iolo, Oshi's World, Hijinx, Humans Move ac eraill ar gael gydol y flwyddyn.
Mae'r holl staff wedi cael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth o anabledd a chynhwysiant, gyda pheth hyfforddiant arbenigol i staff rheng flaen mewn niwrowahaniaeth, ac ymwybyddiaeth o bobl fyddar a dall.
Rydym wedi lansio Clwb Theatr Byddar ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fe wnaethant fynychu perfformiad Ballet Cymru o Giselle dros yr haf a byddant yn ymweld â Rapunzel y Nadolig hwn.
Mae gennym becynnau synhwyraidd am ddim i'w benthyca sy'n cynnwys clustffonau a theganau ffidlan i unrhyw un sydd eu hangen unrhyw bryd y byddant yn ymweld â'n lleoliadau. Rydym hefyd yn darparu mannau tawel ar gyfer perfformiadau a digwyddiadau hamddenol a hygyrch.
Yn fuan byddwn yn rhannu disgrifiadau sain o’n lleoliadau ar ein gwefan, ynghyd â straeon gweledol a fideos 360 gradd o’n gofodau.
Mae pob un o'n lleoliadau yn cynnig cyfleusterau lŵp clyw is-goch a mannau eistedd hygyrch - yn Y Muni mae hyn hefyd yn cynnwys balconi hygyrch sy'n sicrhau golygfeydd gwych i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn mewn digwyddiadau sefyll a digwyddiadau â seddi.
Fe welwch doiledau Changing Places mewn sawl un o'n lleoliadau gan gynnwys Neuadd Dref Maesteg ac Y Muni ym Mhontypridd.




