Banner Content
Banner Content

Stori

Mae Artistiaid Cyswllt Awen yn dod â thraddodiad y Fari Lwyd yn fyw

Mae Artistiaid Cyswllt Awen yn dod â thraddodiad y Fari Lwyd yn fyw

Mae'r storïwr Tamar Williams a'r artist Naz Syed wedi gweithio gyda 12 grŵp o blant oedran ysgol gynradd.

Rhannu ar

Dros ychydig wythnosau cyntaf mis Ionawr, mae dau o Artistiaid Cyswllt Awen wedi bod yn dathlu diwylliant Cymru gydag ysgolion cynradd ar draws Pen-y-bont ar Ogwr a Phontypridd.

Maeu2019r storïwr Tamar Williams au2019r artist Naz Syed wedi dod âu2019r Fari Lwyd yn fyw trwy straeon a chrefftau, gan gysylltu plant â threftadaeth draddodiadol Blwyddyn Newydd Cymru.

Mae deuddeg grŵp gwahanol wedi elwa ar y cyfle rhad ac am ddim, gan gynnwys grŵp Addysg Gartref Pen-y-bont ar Ogwr lle mae sawl un wedi gwneud eu Mari Fach eu hunain, ac eraill wedi mwynhau llên gwerin Cymru trwy gyfarfod â Mari maint llawn ei hun. 

Maeu2019r Fari Lwyd yn arferiad canol gaeaf traddodiadol yn Ne Cymru lle mae penglog ceffyl wediu2019i haddurno â rhubanau lliwgar, rhosetiau a chlychau, wediu2019i gosod ar bolyn ac wediu2019i thrapio mewn lliain gwyn.

Caiff y Fari Lwyd ei chariad o dŷ i dŷ gan grŵp dros dymor yr ŵyl au2019r Flwyddyn Newydd, gan gymryd rhan mewn brwydrau odli gyda thrigolion, gan ganu caneuon galw ac ateb i gael mynediad i gartrefi am fwyd a diod. Dywedir bod yr arferiad iasol hwn yn dod â lwc dda iu2019r aelwyd. 

Newyddion Eraill

Story

Investment in Ukrainian, Polish and children’s Braille books

We are helping more children and families access stories in the language and format that best meets their needs.

Story

Awen and TaleGate Announce Cast for This Year's Pantomime

Beauty and the Beast will be performed at the Met in Abertillery and Maesteg Town Hall.

Social impact

“The library gave me my independence back.”

Bridgend resident shares life-changing impact of local library.