Banner Content
Banner Content

Stori

Ymunwch â phrosiect Artistiaid Cyswllt Awen

Ymunwch â phrosiect Artistiaid Cyswllt Awen

Rydym yn lansio ail rownd ein rhaglen ddwy flynedd, sydd wedi'i hanelu at y rhai sydd ar hyn o bryd yn cael eu tan-gynrychioli o fewn Awen a'r sector creadigol a diwylliannol.

Rhannu ar

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr ar gyfer tair swydd lawrydd newydd gan artistiaid o unrhyw ddisgyblaeth sy'n uniaethu fel person Mud neu Fyddar, anabl neu niwrowahanol, yn rhan o'r mwyafrif byd-eang, yn queer/traws neu ac/neu yn siaradwr Cymraeg.

 

Bydd artistiaid yn gweithio gyda ni ar draws ystod o gyfleoedd creadigol hyblyg dros gyfnod o ddwy flynedd o fis Ebrill 2026, gyda chyfanswm ffi o £4,500 ar gael bob blwyddyn (£9k i gyd) fesul Artist Cyswllt gan gynnwys treuliau. 

 

Dylai artistiaid fod wedi'u cyfeirio at ein nod o wella bywydau trwy greadigrwydd, gyda chyfleoedd i gyflwyno gweithdai, prosiectau a digwyddiadau byw dan do ac yn yr awyr agored gyda'n tîm Lles Creadigol, cefnogi dosbarthiadau meistr a chynhyrchiadau ar gyfer Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, cyflwyno cyfleoedd llyfrgelloedd creadigol, creu llwybrau a digwyddiadau artistig ledled Parc Gwledig Bryngarw, a pherfformiadau, gosodiadau ac arddangosfeydd o fewn ein lleoliadau cerddoriaeth fyw a theatr.

 

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn gweithio ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ac ym Mhontypridd ac Abertyleri. Bydd cyfleoedd yn hyblyg i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau presennol ac o'u cwmpas. Rydym yn croesawu ac yn annog artistiaid o bob disgyblaeth, boed yn rhai sy'n dod i'r amlwg neu'n rhai sefydledig, i ymgeisio.

 

Os dymunwch gael eich ystyried, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol neu gais fideo byr, os yw'n well gennych yn well ganddech, erbyn dydd Gwener 27ain Chwefror at Claire Cressey, Pennaeth Theatrau a Lles Creadigol, Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen: claire.cressey@awen-wales.com.

 

Ariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

 

Disgrifiad o'r Rôl 

 

  1. I weithio gydag amrywiaeth o dimau creadigol yn Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, i gyflwyno canlyniadau prosiect creadigol fel y cytunwyd. Gall y rhain gynnwys gweithdai, gosodiadau, perfformiadau a phrosiectau yn unol â'ch ffurf gelfyddydol. Bydd gweithgareddau'n cael eu contractio ar wahân bob tro.


  2. Ymhlith y timau mae Theatrau, Lles Creadigol, Llyfrgelloedd a Theatr Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr. Ymhlith y lleoliadau mae bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Pontypridd ac Abertyleri. 


  3. I gyfrannu at ddatblygiad cynllun gweithredu Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant Awen a/neu gynllun gweithredu'r Gymraeg dros fynychu cyfarfodydd grŵp gweithredu fel sy'n berthnasol.


  4. Lle bo'n berthnasol, i gymryd rhan mewn cyfleoedd mentora rhad ac am ddim neu hyfforddiant datblygiad proffesiynol a gynigir gan Awen.


  5. I gychwyn ar broses werthuso Awen a'i chefnogi ar gyfer pob prosiect a'r rhaglen Artistiaid Cyswllt.  

 

Dyddiad cau: Dydd Gwener 27ain Chwefror

Cyfarfodydd anffurfiol: Drwy gydol mis Mawrth 


Yn y llun: Artist Cyswllt presennol Awen, Naseem Syed (Ziba Creative), yn Seascape 2025.

Newyddion Eraill

Story

Awen Achieves Green Dragon Level 3

Green Dragon is a recognised, UKAS-accredited environmental standard.

Story

Generous support helps B-Leaf trainees

Thanks to Codi Group, Wales’s largest housing association, and Jenkins Garden Machinery.

Report

Quarter 4 Performance Report

Y Muni, Pontypridd

Story

Awen Achieves Green Dragon Level 3

Green Dragon is a recognised, UKAS-accredited environmental standard.

Story

Generous support helps B-Leaf trainees

Thanks to Codi Group, Wales’s largest housing association, and Jenkins Garden Machinery.