Banner Content
Banner Content

Stori

Apêl Wyau Pasg yn Llyfrgelloedd Awen

Apêl Wyau Pasg yn Llyfrgelloedd Awen

Rydym yn cefnogi'r AS lleol Chris Elmore a Banc Bwyd Pen-y-bont ar Ogwr gyda'r casgliad blynyddol.

Rhannu ar

Cawsom ein synnu ar yr ochr orau gan y rhoddion hael o wyau Pasg y llynedd, felly rydym yn cydweithio â Chris Elmore, AS dros Ben-y-bont a Phorthcawl, a Banc Bwyd Pen-y-bont unwaith eto i gefnogi plant lleol.

 

Os hoffech chi gyfrannu wy Pasg i'r apêl hon, dewch ag ef i un o Lyfrgelloedd Awen hyn erbyn dydd Llun 23ain Mawrth. Ewch i www.awen-libraries.com neu ffoniwch am oriau agor.

 

Llyfrgell Abercynffig – 01656 754820

Llyfrgell Pen-y-bont – 01656 754830

Llyfrgell Pencoed – 01656 754840

Llyfrgell Porthcawl – 01656 754845

Llyfrgell Sarn – 01656 754853

 

Gellir gwneud cyfraniadau hefyd yn nerbynfa Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr.

 

Dywedodd Chris Elmore AS: “Mae'r Pasg yn amser am garedigrwydd, ac rwy'n falch o fod yn gweithio gyda Banc Bwyd Pen-y-bont a Llyfrgelloedd Awen eto eleni i helpu i ledaenu ychydig o lawenydd i blant yn ein cymuned. Os ydych yn gallu, ystyriwch brynu wy Pasg ychwanegol a'i gyfrannu yn un o'n llyfrgelloedd lleol ym Mhen-y-bont a Phorthcawl. Bydd eich haelioni yn helpu i wneud y Pasg yn arbennig i gynifer o blant.”

Newyddion Eraill

Story

Awen Achieves Green Dragon Level 3

Green Dragon is a recognised, UKAS-accredited environmental standard.

Story

Generous support helps B-Leaf trainees

Thanks to Codi Group, Wales’s largest housing association, and Jenkins Garden Machinery.

Report

Quarter 4 Performance Report

Y Muni, Pontypridd

Story

Awen Achieves Green Dragon Level 3

Green Dragon is a recognised, UKAS-accredited environmental standard.

Story

Generous support helps B-Leaf trainees

Thanks to Codi Group, Wales’s largest housing association, and Jenkins Garden Machinery.