Banner Content
Banner Content

Stori

Dathlu Diwrnod Trysorau Treftadaeth yn Neuadd y Dref Maesteg

Dathlu Diwrnod Trysorau Treftadaeth yn Neuadd y Dref Maesteg

Diolch i Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, gwnaethom adfer saith darlun gan yr arlunydd Cymreig enwog Christopher Williams.

Rhannu ar

Ar y Diwrnod Trysorau Treftadaeth hwn (14 Ionawr) rydym yn arddangos ein gwaith adfer ar saith gwaith olew gan yr artist enwog o Gymru, Christopher Williams, sydd nawr yn ôl i'w gweld yn Neuadd Dref Maesteg.

 

Wedi'i eni ym Maesteg ar 7 Ionawr 1873, fe wnaeth Christopher Williams baentio llawer o weithiau enwog gan gynnwys portreadau o'r teulu brenhinol a'r Prif Weinidog David Lloyd George, tirluniau, golygfeydd o chwedlau clasurol a'r Mabinogi ac, yn fwyaf enwog, 'Cymry yng Nghoedwig Mametz' sy'n torri'r galon, a ystyriwyd yn ddadleuol yn ei ddydd oherwydd ei bortread creulon o realistig o'r Rhyfel Byd Cyntaf.

 

Cyn ei farwolaeth ym 1934, rhoddodd Christopher Williams bedwar darlun i Neuadd Dref Maesteg, gyda dau arall yn cael eu cyfrannu gan ei weddw yn fuan wedyn. Aildganfuwyd un o'i ddarluniau llai adnabyddus sy'n cynnwys tirnod lleol ym Maesteg, Gwaith Haearn Llynfi, gan berthnasau yn 2021. Fe'i cyfrannwyd yn garedig i Awen a llwyddasom i adfer y darlun i'w ogoniant gwreiddiol. Mae bellach yn cael ei arddangos yn falch yn y llyfrgell yn y Neuadd Dref.



Ffilm gan Hammerspace Video.

Newyddion Eraill

Story

Awen Secures Capital Investment

Three venues - The Met, Y Muni and Grand Pavilion - will benefit from Arts Council of Wales funding.

Story

Bumper summer for Bryngarw Country Park

There were almost 5,000 visitors over the school summer holidays.

Social Impact

From Trainee to Team Member: Sid’s Journey at Awen

Sid is a trainee at B-Leaf and Wood-B and works at Bryngarw Country Park's cafe.

Story

Awen Secures Capital Investment

Three venues - The Met, Y Muni and Grand Pavilion - will benefit from Arts Council of Wales funding.

Story

Bumper summer for Bryngarw Country Park

There were almost 5,000 visitors over the school summer holidays.