Banner Content
Banner Content

Stori

Dathlu Treftadaeth yn Neuadd Dref Maesteg

Dathlu Treftadaeth yn Neuadd Dref Maesteg

A ydych wedi sylwi ar ein hamlygiadau gwydr newydd, a gafodd eu hargraffu a'u gosod gan Goleg Pen-y-bont?

Rhannu ar

Diolch i gyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae ystafelloedd llawr gwaelod isaf Neuadd dref Maesteg bellach yn cynnwys ffenestri gwydr â dyluniadau ar thema treftadaeth arnynt.

 

  • Mae swyddfa'r llyfrgell yn darlunio Ann Thomas, 'Merch y Cefn Ydfa', nofel ramantus sy'n seiliedig ar bobl go iawn o ardal Llangynwyd.

  • Mae swyddfa Menter Bro Ogwr yn dangos 'Llosgi Castell Llan', symbol lleol adnabyddus, y dywedir ei fod yn seiliedig ar hanes Owain Glyndŵr yn llosgi'r castell ddechrau'r 1400au.

  • Mae drysau a ffenestri'r ystafell gyfarfod yn cynnwys detholiad o gynlluniau o ailddatblygiad y Neuadd dref ym 1914, yn cynnwys y llwyfan wedi'i newid a mannau cefn llwyfan newydd.

  • Mae'r ystafell ymchwil Treftadaeth a'r Llyfrgell Hanes Lleol yn dangos rhannau o fapiau hanesyddol o Dde Cymru.

 

Diolch i Goleg Pen-y-bont am eu gwasanaethau argraffu a gosod gwych.


Newyddion Eraill

Story

Awen Achieves Green Dragon Level 3

Green Dragon is a recognised, UKAS-accredited environmental standard.

Story

Generous support helps B-Leaf trainees

Thanks to Codi Group, Wales’s largest housing association, and Jenkins Garden Machinery.

Report

Quarter 4 Performance Report

Y Muni, Pontypridd

Story

Awen Achieves Green Dragon Level 3

Green Dragon is a recognised, UKAS-accredited environmental standard.

Story

Generous support helps B-Leaf trainees

Thanks to Codi Group, Wales’s largest housing association, and Jenkins Garden Machinery.