Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen:

“Rydym wrth ein bodd bod Awen wedi’i chyhoeddi fel derbynnydd ail rownd Cronfa Adfer Diwylliannol Llywodraeth Cymru, a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Bydd y cymorth ariannol hwn yn hwb i’w groesawu i’n helusen wrth i ni baratoi i ailagor Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, Neuadd y Gweithwyr Blaengarw a’r Met yn Abertyleri dros y misoedd nesaf.

“Rydym yn arbennig o falch gan y bydd y cyllid hwn yn helpu unigolyn i ddechrau neu ddatblygu ei yrfa yn y diwydiant celfyddydau a diwylliant, gan y bydd yn cefnogi creu rôl Cynorthwyydd Rhaglenni a Digwyddiadau newydd i weithio ar draws ein lleoliadau. Byddwn hefyd yn defnyddio peth o'r cyllid hwn i barhau i gefnogi artistiaid lleol a llawrydd, trwy ddatblygu ein cyntedd ym Mhafiliwn y Grand i ddarparu arddangosfa ar gyfer eu gwaith celf gweledol.

“Ynghyd â’n holl bartneriaid awdurdod lleol a’n cwsmeriaid ffyddlon, rydym yn ddiolchgar am gefnogaeth barhaus Cyngor Celfyddydau Cymru, a chydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru o’r effaith gymdeithasol gadarnhaol y mae celfyddydau a diwylliant yn ei chael ar fywydau pobl a’n cymunedau lleol – a eu cyfraniad pwerus at iechyd a lles.

“Rydym yn gweithio’n galed y tu ôl i’r llenni i ailagor ein lleoliadau gyda’r holl fesurau diogelwch COVID-19 angenrheidiol yn eu lle, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu chi i gyd yn ôl i fwynhau digwyddiadau byw a chyfranogol cyn gynted â phosibl.”