Mae Canolfan Gymunedol Coety a Litchard yn lleoliad amlbwrpas, sy’n cynnig lle i gynnal nifer o weithgareddau ac achlysuron. Gellir llogi’r lle fesul awr neu am ddiwrnod cyfan, ac mae digon o gyfleusterau ar gael yno i’w defnyddio.
– Prif Neuadd 107.6m2
– Cyfleusterau cegin / oergell / popty micro-don
– Cawodydd ac ystafelloedd newid
– Mynediad/toiledau i bobl anabl
– Parcio preifat ar gyfer tua 24 car
– WiFi am ddim
I gael rhagor o wybodaeth am logi’r ganolfan gymunedol, ffoniwch 01656 754825.