Cafodd gofalwyr diniwed o bob rhan o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfle annisgwyl o hwyl y Nadolig pan wnaethant ateb eu drysau yn ddiweddar.

Cawsant eu cyfarch â dawns hwyliog, Nadoligaidd gan y Kitsch n Sync Collective i gydnabod eu gwaith diflino, ac yn aml yn ddi-dâl.

Trefnwyd y Doorbell Dances gan elusennau cofrestredig Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen a Chanolfan Gofalwyr Pen-y-bont ar Ogwr, gyda chymorth ariannol gan gyllid adferiad cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Ymwelwyd â chartrefi ar draws Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr, Bryntirion, Trelales, Careau, Pencoed, a hyd yn oed tafarn y Red Dragon yn Litchard.

Cydweithfa theatr ddawns o Gaerdydd yw’r Kitsch n Sync Collective sy’n cyfuno gwahanol genres dawns ac arddulliau perfformio i greu gwaith cyffrous, eclectig a gwreiddiol.

Mae rhai o’r perfformiadau wedi’u dal ar gamera: https://youtu.be/PnNb7vxhNek