Cawsant eu hailagor yn swyddogol yr wythnos hon, a byddant yn parhau i fod ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, ac eithrio gwyliau banc, rhwng tua 8.30am a 5.30pm.

Dywedodd Maer Maesteg, y Cynghorydd Lynne Beedle:

“Mae mynediad i gyfleusterau cyhoeddus yn bwysig i’r holl drigolion, pobl sy’n ymweld â Maesteg a busnesau lleol, ond gallant fod yn hanfodol i’r rhai sydd â phroblemau iechyd a theuluoedd ifanc sydd angen cyfleusterau newid. Mae Cyngor Tref Maesteg felly yn falch iawn ein bod wedi gallu dod o hyd i ateb i ailagor y toiledau i’r gymuned gyfan.”

Ychwanegodd Richard Bellinger, Cyfarwyddwr Gweithrediadau yn Awen, yr elusen gofrestredig sy’n rheoli Neuadd y Dref Maesteg, lle mae’r toiledau:

“Mae gweithio mewn partneriaeth yn allweddol i gyflawni pwrpas Awen o 'wneud bywydau pobl yn well' ac felly rydym yn falch y gallem gefnogi Cyngor Tref Maesteg i ailagor toiledau'r Orsaf Fysiau. Byddwn yn eu rheoli nes bydd Neuadd y Dref Maesteg ar gau i’w hailddatblygu yn ddiweddarach eleni, a phan fydd y Neuadd yn ailagor, gall pobl leol ddisgwyl toiledau cyhoeddus cwbl hygyrch o fewn yr adeilad.”