Agorwyd Bryngarw yn swyddogol i’r cyhoedd fel parc gwledig ym 1986, yn dilyn pum mlynedd o waith adfer gan Gyngor Bwrdeistref Ogwr, gyda Gwasanaethau’r Gweithlu, i osod llwybrau troedffyrdd, pontydd, pyllau, mannau parcio a gerddi ffurfiol, er mwyn agor y cefn gwlad hardd hwn i fyny ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi parhau i ddatblygu’r parc. Yn ystod yr amser hwnnw mae Bryngarw wedi chwarae rôl allweddol o ran cadw bioamrywiaeth y bwrdeistref sirol a mae’r parc yn dal i gyfrannu’n sylweddol i les corfforol, meddyliol a chymdeithasol y gymuned leol.

Yn cael ei reoli erbyn hyn gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mewn partneriaeth â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Bryngarw wedi arddangos i Cadwch Gymru’n Daclus bod y parc yn diwallu’r safonau gorau oll ym maes cadwriaeth amgylcheddol a threftadaeth, a’i fod yn cael ei gynnal yn dda, yn darparu cyfleusterau ardderchog a mynediad diogel i’w 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, er mwyn cyflawni statws Baner Werdd.

Meddai Richard Hughes – Prif Weithredwr Awen:

“Mae hwn yn gyflawniad gwych i Fryngarw, yn cadarnhau ei fod yn haeddu ei le fel un o’r parciau gwledig gorau yn y DU. Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn ymrwymedig i wneud bywydau pobl yn well trwy ddarparu’r gweithgareddau a chyfleoedd diwylliannol gorau oll. Mae’r ffaith bod Bryngarw wedi ennill statws Baner Werdd, yn ein blwyddyn gyntaf o weithredu, yn deyrnged i bawb sy’n ei gefnogi a sy’n helpu i’w wneud y fath brofiad bywiog, glân a hygyrch i bawb.”