Trwy aelodi â Halo Leisure am gyfradd llai, bydd gan staff gyfle i ddefnyddio’r gampfa, pyllau nofio, dosbarthiadau grŵp ymarfer corff, sbaon a sawnau, muriau dringo ac yn y blaen yn eu canolfannau ar draws Ben-y-Bont ar Ogwr.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Awen, “Yn gyson mae addewidion Blwyddyn Newydd yn cynnwys colli pwysau ac ymroi i fyw y iach, ond mae llawer yn rhoi’r gorau iddi erbyn canol mis Ionawr! Trwy weithio gyda Halo i gynnig y cynllun hwn, gallwn helpu staff sydd eisiau byw yn iachach yn 2017.

“Yn Awen, rydym ni’n deall pwysigrwydd cefnogi iechyd a lles yn y gweithle, ac rydym ni’n ymroddedig i ofalu am ein staff trwy gynnig buddion a fyddai’n sicrhau bod pobl yn hapus, iachus, ac wedi’u hymroi i ffyniant yr ymddiriedolaeth.”