Ymunodd Theatr Soar ym Merthyr Tudful, Neuadd Les Ystradgynlais, Neuadd y Dref Maesteg ynghyd â  Theatr na nÓg i ailgynnau bywiogrwydd a gwerth y lleoliadau hyn yn eu cymunedau. Caiff y Consortiwm newydd ei gefnogi gan Grant Cysylltu a Ffynnu Cyngor Celfyddydau Cymru. Gan fod canolfannau diwylliannol wedi wynebu’r cyfnod clo, bu’r angen am hyb creadigol oddi fewn i gymunedau’n fwy nag erioed, nid yn unig er mwyn diogelu dyfodol y Gymraeg yn y cymoedd, ond hefyd i gefnogi cymuned ffyniannus y cymoedd y tu hwnt i Bandemig Covid-19.

 

Esboniodd Geinor Styles, cyfarwyddwr artistig Theatr na nÓg pam fo’r fenter hon mor bwysig ar yr adeg hon: “os ydyn ni am wireddu targed Llywodraeth Cymru o filiwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae’n hanfodol ein bod ni’n cefnogi’r holl elfennau sy’n cyfrannu at adfywio’n hiaith a’n diwylliant, ac mae’r lleoliadau hyn yn allweddol i’r llwyddiant hwnnw.

 

Roedd cydweithredu â thair theatr gymunedol yn teimlo fel partneriaeth naturiol i Theatr na nÓg. Bu’r tair yn hanfodol o ran cyfrannu at gefnogi diwylliant a’r Gymraeg yn eu hardaloedd. Nid yn unig yw’r weledigaeth a rannwn yn ymwneud â chyd-gynhyrchu theatr i ddatblygu cynulleidfaoedd, ond y mae hefyd yn ymwneud â dyfeisio rhaglen ymgysylltu â’r gymuned leol. Hefyd, mae ein cydweithrediad yn ein gosod mewn sefyllfa gref i ymbaratoi at adfywio’r ardaloedd hyn pan ddaw’r cyfnod clo i ben. Bryd hynny cawn ail-ddechrau rhoi bywyd newydd i’r trefi hyn yn dilyn Covid.”

Er bod yr ansicrwydd yn parhau ynghylch pryd fydd y lleoliadau’n ailagor, mae’r Consortiwm yn edrych ymlaen gydag optimistiaeth wrth iddynt gyhoeddi eu cydweithrediad cyntaf, sef cyfieithiad ac addasiad o’r comedi clasurol Shirley Valentine gan Willy Russel. Cafodd y ddrama ei chyfieithu’n wreiddiol gan Manon Eames; yn y fersiwn hon gwelwn Shirley yn cael ei chludo o Lerpwl i Dde Cymru. Roedd yn llwyddiant theatrig poblogaidd pan agorodd yn Eisteddfod Aberystwyth ym 1994, ac y mae’n sicr o ddenu cynulleidfaoedd yn ôl i’r lleoliadau.

 

Dywedodd Daniel Evans, enillydd Gwobr Olivier a chyfarwyddwr Gŵyl Theatr Chichester y canlynol am y cydweithrediad: “Unwaith yn rhagor, dangosodd Theatr na nÓg fod ganddynt y cydnerthedd i wrthsefyll yr ergydion caled a roddwyd i ddiwydiant y celfyddydau drwy gydol y pandemig. Rwy’n meddwl fod hyn yn sgil edrych ar y rôl maen nhw’n ei chwarae yn y gymuned yn ogystal ag ystyried eu llwyddiannau eu hunain a gweld eu bod yn gallu gwneud gwahaniaeth. Wrth weithio mewn cydweithrediad a phartneriaeth â Soar, y Neuadd Les a Neuadd y Dref Maesteg maen nhw’n wirioneddol gallu helpu’r gymuned i ailadeiladu a ffynnu. Maen nhw hefyd wedi gweld pwysigrwydd y Gymraeg yn eu cymunedau a bod gweithio mewn partneriaeth yn gallu denu cynulleidfaoedd hen a newydd i’r lleoliadau gan ddyfod yn asgwrn cefn i’w cymunedau unwaith yn rhagor.

 

 

“Mae’n galonogol i mi hefyd fod Cyngor Celfyddydau Cymru’n cefnogi mentrau a phartneriaethau o’r fath. Mae’r ffaith eu bod yn cydnabod pwysigrwydd diogelu celfyddydau Cymraeg eu hiaith yn ein cymunedau’n argoeli’n dda ar gyfer ein dyfodol.”

 

Dywedodd Wynne Roberts, cyfarwyddwr Neuadd Les Ystradgynlais: “Y dymuniad wrth galon ein hymrwymiad â’r consortiwm hwn yw bod y broses o greu theatr yn agored i gymunedau Cymraeg eu hiaith. Rydym yn gyffrous o weld sut mae Theatr na nÓg, cwmni cynhyrchu theatr uchel ei barch, yn datblygu syniadau am theatr newydd, gyda phobl leol yn cyfranogi. Mae clywed lleisiau tafodiaith Gymraeg Cwm Tawe ar lwyfan proffesiynol yn beth prin iawn; dyna rywbeth yr ydyn ni’n wirioneddol edrych ymlaen ato.

 

“Mae ein hymgysylltiad cymunedol yn hen hanes, o gymdeithasau cynnar operatig a drama y 1930au i’r ffilmiau a enillodd wobrau y llynedd, a wnaed â theuluoedd o Syria a sefydliadau cymunedol. Ar ôl cyfnod anodd i lawer o bobl leol heb fynediad at ein gwasanaethau celfyddydol cymunedol, rydyn ni’n gwybod fod yna awch gwirioneddol ac angen dybryd am gyfranogiad yn y celfyddydau ac rydyn ni’n wirioneddol edrych ymlaen at weld sut fydd pobl leol yn ymateb.”

 

Bu elusen Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen yn gweithredu Neuadd y Dref Maesteg ers 2015. Mae’r neuadd ar gau ar hyn o bryd ar gyfer ailddatblygu uchelgeisiol gwerth £8m. Dywedodd Hannah Kester, Pennaeth Datblygu Diwylliannol Ymddiriedolaeth Awen am y bartneriaeth: “Mae gweithio gyda Theatr na nÓg, y Neuadd Les a Theatr Soar yn ddull gweithredu sy’n wirioneddol gydweithredol i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymunedau yn ogystal â rhoi cyfle i unigolion gyfranogi a mwynau gwaith a gynhyrchwyd yn lleol yn eu lleoliad wrth i ni barhau i weithio ar sioeau’r dyfodol a gweithgaredd cyfranogol i bob oed.”

 

Ychwanegodd Lis Mclean, cyfarwyddwr Theatr Soar: “Mae’r fenter hon yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae Theatr Soar wedi bod eisiau datblygu Theatr Gymraeg ei hiaith a chodi dyheadau a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn ein cymuned ers amser hir bellach. Cafodd hyn ei wneud yn bosibl drwy weithio mewn cydweithrediad ag eraill sy’n rhannu’r un gwerthoedd a gweledigaeth. Mae’r Consortiwm Cymraeg yn ymgorfforiad o’r hyn y mae Theatr Soar yn sefyll drosto.”

 

Bydd addasiad y Consortiwm o Shirley Valentine yn mynd ar daith o gwmpas lleoliadau’r Consortiwm a ledled Cymru ym mis Medi 2021, gan agor yn Theatr Soar. Er mwyn derbyn y diweddaraf ewch i www.theatrnanog.co.uk