Ers 1 Hydref 2015, mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi bod yn rhedeg rhai o leoliadau a gwasanaethau diwylliannol gorau Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: Pafiliwn y Grand, Porthcawl; Neuadd y Dref Maesteg; Llyfrgelloedd; Canolfannau Cymunedol; Ty a Pharc Gwledig Bryngarw; B-Dail a Pren-B

O sesiynau crefft a gwawdluniau i drochi yn y pwll ac amser stori, mae gennym weithgareddau yn cael eu cynnal yn ein llyfrgelloedd ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a hefyd ym Mhafiliwn y Grand a Pharc Gwledig Bryngarw.

Pafiliwn y Grand: 11.30yb – 1.30yp
Ymunwch â Picasso Griffiths wrth iddo dynnu gwawdluniau yn y Caffi Bar a byddwch hyd yn oed yn cael eich cofroddion unigryw eich hun i fynd adref gyda chi!

Parc Gwledig Bryngarw: 11am – 1pm, sesiwn dipio pwll bach yn yr Ardd Ddwyreiniol gyda Cheidwad Beth.

Llyfrgelloedd: Amser stori â thema a sesiynau crefft
Pen-y-bont ar Ogwr: 2:15pm
Maesteg: 3:00pm
Pencoed: 2:15pm
Porthcawl: 2:15pm
Pîl: 10:30yb