Mae Bags of Help yn cael ei redeg mewn partneriaeth â’r elusen amgylcheddol Groundwork, ac mae’n gweld grantiau a godir o werthu bagiau siopa yn cael eu dyfarnu i filoedd o brosiectau cymunedol lleol bob blwyddyn. Ers ei lansio yn 2015, mae wedi darparu mwy na £43 miliwn i dros 10,000 o brosiectau cymunedol lleol.

Rheolir Parc Gwledig Bryngarw gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae Awen yn sefydliad elusennol gydag amcanion i wella cyfleoedd diwylliannol ym Mhen-y-bont ar Ogwr a’r rhanbarth ehangach.

Dywedodd y Prif Weithredwr Richard Hughes:

“Rydym yn ffodus bod Bryngarw yn elwa o grŵp hynod weithgar ac ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wir yn poeni am y parc ac yn ei wneud yn lle hyd yn oed yn fwy deniadol i dreulio amser. Maent yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu i gynnal amgylchedd naturiol y parc ar gyfer y bywyd gwyllt a'r 200,000 o bobl sy'n ymweld bob blwyddyn. Rydym wrth ein bodd bod y Grŵp Gwirfoddoli wedi llwyddo i gael grant arall gan Tesco, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda nhw a’n Ceidwaid i ddod â’r prosiect diweddaraf hwn yn fyw.”

Eglurodd Leigh Forman, Ysgrifennydd y grŵp gwirfoddolwyr ym Mharc Bryngarw:

“Caniataodd cais llwyddiannus blaenorol i gynllun Bags of Help Tesco yn 2016/17 ni i drawsnewid dwy ardal o’r parc sy’n cael eu tanddefnyddio a’u tanbrisio. Bydd y cyllid hwn yn ein galluogi i gwblhau’r gwaith anhygoel hwn drwy greu ffens derfyn hardd, wledig. Bydd yr offer gwasgu afalau yn ein galluogi i gynnal digwyddiadau tymhorol blynyddol yma er mwyn i’r gymuned leol ymgysylltu â nhw a helpu i gael y gorau o’r ardaloedd hyn sydd wedi’u trawsnewid.”

Dywedodd Alec Brown, Pennaeth Cymuned Tesco:

“Mae Bagiau Cymorth wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rydym wedi cael ein syfrdanu gan yr ymateb gan gwsmeriaid. Mae'n gynllun mor arbennig oherwydd y bobl leol sy'n penderfynu sut y bydd yr arian yn cael ei wario yn eu cymuned. Ni allwn aros i weld y prosiectau yn dod yn fyw.”

Cynhaliwyd y pleidleisio mewn siopau trwy gydol mis Tachwedd a mis Rhagfyr gyda chwsmeriaid yn dewis pa brosiect lleol yr hoffent gael y wobr uchaf gan ddefnyddio tocyn a roddwyd iddynt wrth y ddesg dalu.

Mae cwsmeriaid Tesco yn cael cyfle i bleidleisio dros dri grŵp gwahanol bob tro maen nhw'n siopa. Bob yn ail fis, pan fydd pleidleisiau’n cael eu casglu, mae tri grŵp ym mhob un o ranbarthau Tesco yn cael cyllid.

Dywedodd Prif Weithredwr Cenedlaethol Groundwork, Graham Duxbury:

“Mae Bagiau Cymorth yn parhau i alluogi cymunedau lleol ar hyd a lled y DU i wella’r mannau lleol a’r lleoedd sy’n bwysig iddyn nhw. Mae amrywiaeth y prosiectau sy’n cael eu hariannu yn dangos bod gan gymunedau lleol angerdd i greu rhywbeth gwych yn eu hardal. Rydym yn falch o allu bod yn rhan o’r daith a darparu cefnogaeth ac anogaeth i helpu cymunedau lleol i ffynnu.”

Mae cyllid ar gael i grwpiau cymunedol ac elusennau sydd am ariannu prosiectau lleol sy'n dod â manteision i gymunedau. Gall unrhyw un enwebu prosiect a gall sefydliadau wneud cais ar-lein. I ddarganfod mwy ewch i www.tesco.com/bagsofhelp.