Agorwyd Bryngarw yn swyddogol i’r cyhoedd fel parc gwledig ym 1986, yn dilyn pum mlynedd o waith adfer gan Gyngor Bwrdeistref Ogwr, ynghyd â Manpower Services, i osod llwybrau troed, pontydd, pyllau, mannau parcio a gerddi ffurfiol, ac agor y wlad hardd hon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi parhau i ddatblygu'r parc. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae Bryngarw wedi chwarae rhan hanfodol wrth warchod bioamrywiaeth y fwrdeistref sirol ac mae'r parc yn parhau i gyfrannu'n sylweddol at les corfforol, meddyliol a chymdeithasol y gymuned leol.

Bellach yn cael ei reoli gan Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen mewn partneriaeth â Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae Bryngarw wedi dangos i Gadw Cymru’n Daclus fod y parc yn cyrraedd y safonau gorau oll mewn cadwraeth amgylcheddol a threftadaeth, a’i fod yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda, yn darparu cyfleusterau rhagorol a mynediad diogel i’w dir. 200,000 o ymwelwyr y flwyddyn, er mwyn ennill statws y Faner Werdd.

Dywedodd Richard Hughes, Prif Weithredwr Awen:

“Mae hwn yn gyflawniad gwych i Fryngarw, gan gadarnhau ei le fel un o barciau gwledig gorau’r DU. Mae Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen wedi ymrwymo i wella bywydau pobl trwy ddarparu'r gweithgareddau a'r cyfleoedd diwylliannol gorau oll. Mae Bryngarw wedi ennill statws y Faner Werdd, yn ein blwyddyn gyntaf o weithredu, yn dyst i bawb sy’n ei gefnogi ac yn helpu i’w wneud yn brofiad mor fywiog, glân a hygyrch i bawb.”